- 18/04/2018
- Posted by: Mike Hedges MS
- Category: Press Releases
Dyfarnwyd miliwn o bunnoedd y flwyddyn yn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf i’r Mudiad Meithrin i gynorthwyo’r sefydliad er mwyn gallu cyfrannu a sicrhau miliwn o siradwyr Cymraeg erbyn 2050.
Mae Mike Hedges A.C yn hapus bydd y sefydliad yn derbyn £3.031 miliwn y flwyddyn am y ddwy flwyddyn ariannol nesaf. Mae hyn yn cynnwys £2.031 miliwn o gyllid blynyddol a £1 miliwn y flwyddyn yn ychwanegol yn rhan o’r fargen rhwng Plaid Cymru a Llywodraeth Cymru ynglyn â’r gyllideb.
Bydd y cyllid ychwanegol yn caniatáu i Fudiad Meithrin:
· gynnig cymorth ychwanegol i sefydlu lleoliadau newydd mewn mannau â blaenoriaeth ledled Cymru lle nad oes digon o ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg
· datblygu modelau gwahanol ar gyfer cylchoedd meithrin newydd
· cryfhau strwythurau rhanbarthol a chenedlaethol Mudiad Meithrin i gefnogi’r cynnydd yn nifer yr aelodau.
Fel rhan o’r gwaith hwn mae Torfaen wedi’i adnabod fel un o’r ardaloedd blaenoriaeth ar gyfer datblygu darpariaeth newydd. Mae Mudiad Meithrin yn gweithio yn agos gydag awdurdodau lleol a phartneriaid eraill i sicrhau bod y lleoedd ychwanegol fydd yn cael eu datblygu dros y blynyddoedd nesaf yn cael eu targedu yn effeithiol ac yn galluogi cymaint o blant ag sy’n bosib i gychwyn ar y daith i ddwyieithrwydd.
Meddai Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, wrth gyhoeddi’r cyllid:
“Mae miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn darged uchelgeisiol iawn. Mae addysg, ac addysg y blynyddoedd cynnar yn arbennig, yn allweddol yn hyn o beth a dyna pam yr ydym wedi gosod targedau i ehangu darpariaeth cyfrwng Cymraeg trwy sefydlu 40 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol erbyn 2021 a 150 o gylchoedd meithrin Cymraeg ychwanegol dros y degawd sydd i ddod.
“Gan mai Mudiad Meithrin yw’r arbenigwr ym maes gofal plant ac addysg y blynyddoedd cynnar yn y Gymraeg, mae gan y sefydliad gyfraniad hollbwysig i’w wneud. Rwyf wrth fy modd felly yn cyhoeddi’r cyllid ychwanegol hwn i’w gynorthwyo i gyfrannu at y targed.”
Meddai Dr Gwenllian Lansdown Davies, Prif Weithredwr Mudiad Meithrin:
“Bydd buddsoddiad ariannol ychwanegol Llywodraeth Cymru yn galluogi Mudiad Meithrin i sicrhau agor Cylchoedd Meithrin a Ti a Fi o’r newydd er mwyn cyfrannu at dargedau uchelgeisiol strategaeth iaith ‘Cymraeg 2050’. Mae’r berthynas rhwng cynnydd yr iaith a gofal plant yn allweddol i lwyddiant y cynllun hwn.”